Dysgu am systemau a data GIG Cymru

Bydd Porth Datblygwyr GIG Cymru yn darparu adnoddau sy’n eich helpu i ddatblygu meddalwedd sy’n gweithio gyda systemau digidol GIG Cymru.

Bydd y safle hwn yn cynnwys canllawiau technegol sy’n egluro sut i integreiddio eich cymwysiadau gyda systemau digidol GIG Cymru, pa safonau a rheoliadau y mae angen i chi eu hystyried, a pha Ryngwynebau Rhaglennu Cymwysiadau (APIs) sydd ar gael i gysylltu â nhw.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio i GIG Cymru a bod gennych brofiad o ysgrifennu technegol, dylunio cynnwys neu ddatblygu meddalwedd, cysylltwch ag ecosystem@wales.nhs.uk i gael gwybod am gyfleoedd.

I bwy mae’r wefan hon

Er y bydd y wefan a’r cynnwys yn gyhoeddus, bydd y cynulleidfaoedd arfaethedig yn weithiwr proffesiynol meddalwedd (e.e. datblygwyr, perchnogion cynnyrch a phenseiri) sy’n gweithio i’r canlynol:

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn gyflenwr neu’n bartner a dydych ddim yn siŵr ble i ddechrau, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â thîm Ecosystem Iechyd Digidol Cymru yn Hwb Gwyddorau Bywyd .

Cynnwys Blaenorol ac APIs Sandbox

Mae canllawiau defnyddwyr API a gyhoeddwyd yn flaenorol ar borth y datblygwyr wedi’u harchifo gan eu bod yn hen.

Os oeddech chi wedi cofrestru yn flaenorol i gael mynediad at APIs yn ein hamgylchedd Sandbox, yna gallwch chi barhau i ddefnyddio’ch allweddi API ar gyfer mynediad atynt ond cofiwch ein bod yn bwriadu mudo’r amgylchedd Sandbox i blatfform API newydd. Cyn i hynny ddigwydd, byddwch yn derbyn hysbysiad e-bost yn esbonio pa gamau i’w cymryd.

Mae prosiect ar y gweill i ddarparu Platfform API GIG Cymru, a fydd yn darparu ffordd ddiogel a chyson o gysylltu ag APIs GIG Cymru i ddatblygu a phrofi eich cymwysiadau, cyn cael cymeradwyaeth i’w defnyddio’n fyw mewn amgylchedd cynhyrchu. Mae prosiect Llwyfan API yn rhan o raglen Adnodd Data Cenedlaethol.

Cyfleoedd am Swyddi Gwag

Os ydych yn ddatblygwr sydd â diddordeb mewn gweithio i GIG Cymru, gallwch bori trwy swyddi gwag yn y dolenni isod neu anfon CV i ecosystem@wales.nhs.uk